Dan Sylw: Neuadd Brangwyn
Llwyfan ar gyfer sain, ysblander ac uchelgais greadigol
Nid adeilad yn unig yw Neuadd Brangwyn. Mae’n un o’r mannau diwylliannol mwyaf eiconig yn Abertawe: ystafell a adeiladwyd ar gyfer awyrgylch, graddfa ac eiliadau a rennir. Mae Neuadd Brangwyn yn fwy na neuadd hanesyddol neu dirnod dinesig. Mae’n enghraifft berffaith o isadeiledd diwylliannol. Dyma ble mae cerddorfeydd yn ffynnu, mae cynulleidfaoedd yn cysylltu, mae cymunedau yn ymgynnull ac mae syniadau creadigol yn cael y cyfle i greu effaith barhaol.
Nid yw Neuadd Brangwyn wedi’i diffinio gan ei hanes yn unig, ac nid yw ond yn gefndir hyfryd ar gyfer achlysuron ffurfiol. Mae’n beiriant creadigol ar gyfer Abertawe: rhywle lle gall cerddoriaeth, perfformiad, sgil technegol, cynllunio cynhyrchiad a chyfarfod cyhoeddus ddod at ei gilydd yn un o’r ychydig ystafelloedd yn y ddinas sy’n cynnig y maint, y cymeriad a’r hyblygrwydd i gynnal digwyddiadau diwylliannol mawr.
Mae swyddogaeth ddinesig y neuadd yn ganolog i’w hunaniaeth o hyd. O Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i fandiau byw gan gynnwys Far from Saints a Public Service Broadcasting; o ddwysdeimlad Gŵyl y Cofio y Lleng Brydeinig Frenhinol i seremonïau graddio, dathliadau cymunedol a chystadlaethau cenedlaethol, Neuadd Brangwyn yw’r lleoliad y mae Abertawe’n ymgynnull ynddo pan fydd rhywbeth yn ddigon pwysig i’w wneud gyda’n gilydd.
Gyda lle i 1,070 o bobl gan ddilyn arddull theatr neu 1,380 o bobl yn sefyll, mae Neuadd Brangwyn yn rhoi’r rhyddid i artistiaid, hyrwyddwyr a chynhyrchwyr greu profiadau bywiog, effaith uchel wrth gadw’r cysylltiad hanfodol hwnnw â’r gynulleidfa. Mae’n cynnig graddfa heb golli agosrwydd, a mawredd heb deimlo ar wahân oddi wrth y ddinas y mae’n ei gwasanaethu.
Mae’r hyblygrwydd hwnnw’n allweddol i ecoleg greadigol pob digwyddiad a’r digwyddiad ei hun. Y tu ôl i bob cyngerdd, seremoni neu gyfarfod ar raddfa fawr mae rhwydwaith o dalent: hyrwyddwyr, cynhyrchwyr, technegwyr, criwiau llwyfan a sain, arbenigwyr goleuo, timau blaen tŷ, arlwywyr, dylunwyr, cyflenwyr, gweithwyr llawrydd a sefydliadau diwylliannol. Mae Neuadd Brangwyn yn helpu i gadw’r rhwydwaith hwnnw i weithio.
Nid lleoliad ar dudalen rhestru yn unig ydyw. Mae’n rhan o’r gadwyn gynhyrchu sy’n caniatáu i fusnesau creadigol a gweithwyr diwylliannol weithredu yn Abertawe. Pan fydd adeilad fel Neuadd Brangwyn yn ffynnu, nid y gynulleidfa yn unig sy’n elwa. Mae’n creu cyfleoedd ar gyfer ymarfer, perfformio, cydweithio, datblygu sgiliau, gwaith technegol â thâl a’r gwaith y tu ôl i’r llenni sy’n cadw sector diwylliannol i weithredu.
Mae gan y neuadd rôl arbennig hefyd wrth ysbrydoli pobl ifanc dalentog. Ar gyfer cerddorion, perfformwyr a thechnegwyr ifanc, gall fynd i mewn i ystafell lle cynhaliwyd perfformiadau gan gerddorfeydd mawr, cystadlaethau cenedlaethol a digwyddiadau dinesig nodedig newid eu meddyliau o ran yr hyn sy’n teimlo’n bosib. Mae’n helpu talentau newydd i weld llwybr clir o ddysgu a chymryd rhan i berfformio ar lefel broffesiynol. Oherwydd hyn, nid lleoliad sy’n cynnig profiadau diwylliannol yn unig yw Neuadd Brangwyn; mae’n lleoliad lle gall gweithwyr creadigol y dyfodol ddechrau dychmygu eu hunain fel rhan o fywyd diwylliannol Abertawe.
Hefyd mae Paneli’r Brangwyn. Mae 16 o weithiau enfawr gan Syr Frank Brangwyn ymysg nodweddion mwyaf adnabyddus y neuadd ac maent yn rhan ddiffiniol o’r profiad o’r ystafell. Mae gan y paneli, a gomisiynwyd yn y 1920au ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi cyn eu gosod yn Abertawe yn ddiweddarach, hanes cymhleth, gan gynnwys cyd-destun ymerodrol y cyfnod y cawsant eu creu ynddo. Heddiw, mae arwyddocâd y paneli yn deillio o’u maint a’u heffaith weledol, a hefyd y sgyrsiau maent yn eu gwahodd am gelf, pŵer, hanes a lle – a’r ffordd y mae Abertawe’n parhau i ddehongli a gofalu amdanynt fel rhan o fan dinesig byw.
Agorodd Neuadd y Ddinas ar 23 Hydref 1934, a chyflwynwyd y gyngerdd gyntaf y noson honno gan Gôr Meibion Brenhinol Abertawe a’r Cylch ym mhresenoldeb EUB Dug Caint. Perfformiodd y gerddorfa symffoni fawr gyntaf yno ar 31 Hydref 1935 pan wnaeth Gerddorfa Symffoni’r BBC berfformio yn Abertawe – gan sefydlu Neuadd Brangwyn fel rhan o hunaniaeth ddinesig a diwylliannol y ddinas o’r cychwyn cyntaf.
Bron ganrif yn ddiweddarach, mae’r rôl ddeuol honno yn parhau. Mae Neuadd Brangwyn yn cynnal atgofion wrth alluogi gwaith newydd. Gall ddarparu ar gyfer perfformiadau cerddorfaol, seremonïau ffurfiol, digwyddiadau cofio, bandiau byw, cystadlaethau cenedlaethol a chyfarfodydd cyhoeddus ar raddfa fawr wrth barhau i deimlo fel ei bod yn rhan o Abertawe yn hytrach nag ar wahân iddi. Wrth i ddiwylliant ddatblygu, mae Neuadd Brangwyn yn datblygu hefyd.
Lle sy’n ddigon mawr ar gyfer sain Abertawe. Man sy’n deilwng o syniadau. Llwyfan sy’n barod pan fyddwch chi’n barod.
"Rydw i wedi gweithio yn Neuadd Brangwyn ers amser mor hir rwy’n teimlo fel fy mod i'n rhan o'r adeilad erbyn hyn. Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi mynd o fod yn dîm o 12 i 3 yn unig, ond fel popeth arall yn yr adeilad, rydyn ni wedi dysgu i wneud mwy. Mae technoleg wedi gwella, mae disgwyliadau wedi cynyddu a rhywsut mae Neuadd Brangwyn yn brysurach nag erioed. Mae pob diwrnod yn hollol wahanol - a dyna pam dydw i heb gael amser i ymlacio ers 2009 siŵr o fod - ond rydyn ni'n ymfalchïo mewn darparu'r math o wasanaeth y mae pobl yn ei gofio (am yr holl resymau cywir!)."
— Tracy Ellicott, Rheolwr Neuadd Brangwyn