Skip to content
PENNOD NEWYDD AR GYFER DIWYLLIANT A CHREADIGRWYDD YN ABERTAWE

PENNOD NEWYDD AR GYFER DIWYLLIANT A CHREADIGRWYDD YN ABERTAWE

Heddiw, mae Abertawe wedi lansio Strategaeth Diwylliant pum mlynedd newydd sy’n nodi uchelgais a rennir i helpu diwylliant, creadigrwydd a thalent y ddinas i ffynnu.

Mae’r strategaeth yn cwmpasu 2026 i 2031, ac mae’n dwyn ynghyd bopeth o’r celfyddydau, cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol i dreftadaeth, y Gymraeg, digwyddiadau, twristiaeth, chwaraeon, llyfrgelloedd a bywyd cymunedol.

Ei gweledigaeth yw bod Abertawe’n dod yn rhywle lle mae diwylliant yn helpu pobl, cymunedau a busnesau i ffynnu, gyda phartneriaid ledled y ddinas yn gweithio gyda’i gilydd i wireddu’r weledigaeth honno.

Fel a nodir yn y strategaeth; Diwylliant gyda balchder, creadigrwydd gyda phwrpas.

I artistiaid, gweithwyr llawrydd, lleoliadau, sefydliadau diwylliannol a busnesau creadigol Abertawe, mae’n achlysur pwysig iawn. Mae’r strategaeth yn cydnabod y sector creadigol fel rhywbeth sy’n gwneud Abertawe’n lle mwy cyffrous i fyw, yn ogystal â bod yn rhan hanfodol o’r economi, hunaniaeth a’r dyfodol.

Yn bwysicaf oll, mae’n nodi sut y gall Abertawe symud o uchelgais a rennir i weithredu cydgysylltiedig.

ADEILADU AR GRYFDERAU CREADIGOL ABERTAWE

Mae Abertawe eisoes yn gartref i gymuned greadigol hynod amrywiol, o artistiaid unigol a busnesau cynnar i leoliadau ar lawr gwlad, sefydliadau diwylliannol mawr a chwmnïau creadigol sy’n tyfu.

Mae sector creadigol Abertawe’n cyflogi tua 3,200 o bobl ar draws bron 380 o fusnesau at ddibenion TAW a’r cynllun Talu Wrth Ennill, ochr yn ochr â rhwydwaith llawer ehangach o weithwyr llawrydd ac ymarferwyr annibynnol.

Mae’r ddinas hefyd yn elwa o ddwy brifysgol, coleg addysg bellach cryf, cymysgedd amrywiol o leoliadau a hunaniaeth ddiwylliannol sydd wedi’i llunio gan ei phobl, ei hieithoedd, ei hanes a’i lleoliad arfordirol.

Ond mae llawer o botensial heb ei gyffwrdd o hyd.

Drwy broses ymgynghori, roedd yn amlwg bod awydd clir am fwy o gyfleoedd i dalent leol; mwy o berfformiadau byw a phrofiadau diwylliannol fforddiadwy, gwell isadeiledd a mannau creadigol, cyfleoedd cyllido cryfach a sector diwylliannol mwy cysylltiedig a chynaliadwy.

Mae’r strategaeth hefyd yn cydnabod y pwysau gwirioneddol iawn y mae pobl a sefydliadau creadigol yn eu hwynebu; o gostau cynyddol ac arferion cynulleidfaoedd sy’n newid i fynediad cyfyngedig at le gwaith, cyllid a llwybrau gyrfa clir.

Bwriad y strategaeth newydd yw dod â phobl at ei gilydd a chreu sylfaen gryfach ar gyfer dyfodol creadigol Abertawe.

PUM THEMA AR GYFER Y PUM MLYNEDD NESAF

Mae’r Strategaeth Diwylliant yn seiliedig ar y pum thema rhyng-gysylltiedig isod:

  • Gwella bywydau a chymunedau
  • Adrodd stori Abertawe
  • Atgyfnerthu lleisiau, busnesau ac artistiaid lleol
  • Galluogi dysgu a dyheadau
  • Datgloi tyfu ac adnewyddiad

Gyda’i gilydd, maent yn adlewyrchu’r nifer o ffyrdd y gall diwylliant wneud gwahaniaeth – drwy wella lles, creu cyfleoedd, cryfhau balchder lleol, dod â phobl at ei gilydd, denu ymwelwyr a chefnogi adfywio a thwf economaidd.

Ar gyfer cymuned Abertawe Greadigol, mae rhai o’r ymrwymiadau mwyaf cyffrous yn ymwneud â ffocws y strategaeth ar y celfyddydau, diwylliant a’r economi greadigol. Felly, beth allai ei olygu yn ymarferol?

CYFLEOEDD CREADIGOL CLIRIACH A MWY CYSYLLTIEDIG

Un o gynigion canolog y strategaeth yw datblygu fframwaith sirol ar gyfer comisiynu a rhaglennu gwaith creadigol.

Y nod yw gwneud cyfleoedd yn gliriach ac yn fwy tryloyw, gwella blaengynllunio ac annog mwy o sefydliadau i gydweithio ar gomisiynau a rhaglenni.

Gallai hyn gynnwys offer ac egwyddorion a rennir, datblygu calendr blaengynllunio ar gyfer cyfleoedd a chreu cysylltiadau cryfach rhwng gwaith comisiynu, Abertawe Greadigol a rhaglenni datblygu talent y ddinas.

I artistiaid, gweithwyr llawrydd a sefydliadau creadigol, gallai hynny olygu gwella amlygrwydd, llwybrau cliriach i gyfleoedd a mwy o gyfleoedd i gydweithio.

MWY O GEFNOGAETH I GYMUNED GREADIGOL ABERTAWE

Mae Abertawe Greadigol wedi’i nodi fel rhan bwysig o’r modd y bydd y strategaeth yn cefnogi ac yn cysylltu’r sector.

Mae’r cynllun gweithredu yn cynnwys uchelgeisiau i greu mwy o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, cefnogaeth gan gymheiriaid a chydweithredu traws-sector, ochr yn ochr ag arweiniad busnes ymarferol, datblygu sgiliau a dulliau cyfeirio cliriach at gefnogaeth berthnasol.

Mae hefyd yn cynnig defnyddio gwefan, sianeli cymdeithasol, cyfeiriaduron ac arddangosfeydd Abertawe Greadigol i wella amlygrwydd artistiaid lleol, gweithwyr llawrydd, lleoliadau a busnesau creadigol.

Yr uchelgais yw i Abertawe Greadigol ddod yn bwynt cysylltiad hyd yn oed yn fwy defnyddiol, fel rhywle y gall pobl ddarganfod cyfleoedd, cael mynediad at adnoddau, meithrin perthnasoedd a dathlu’r gwaith sy’n mynd rhagddo ledled y ddinas.

HELPU BUSNESAU A SEFYDLIADAU CREADIGOL I DYFU

Mae economi greadigol Abertawe yn ddeinamig ac yn tyfu. Er bod y sector creadigol yn cynnwys busnesau bach a microfusnesau yn bennaf, fel y mae ledled y DU, mae llawer o fentrau creadigol Abertawe yn eu camau cynnar ac mae angen cymorth arnynt i ddatblygu gwydnwch, cynnal eu gweithgarwch a thyfu.

Mae cyfle gwirioneddol i helpu’r busnesau hynny i ddod yn fwy gwydn, i ddatblygu eu huchelgeisiau a chynyddu gwerth economaidd creadigrwydd yn y ddinas. Mae’r camau gweithredu arfaethedig yn cynnwys gwella mynediad at fannau gwaith fforddiadwy, stiwdios a chyfleusterau cynhyrchu digidol; cryfhau cymorth busnes creadigol; ehangu mynediad at grantiau, cyllid a buddsoddiad; a chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng pobl greadigol, lleoliadau, darparwyr addysg a diwydiannau digidol.

Mae’r strategaeth hefyd yn cynnig archwilio modelau busnes newydd a allai helpu gweithwyr llawrydd, lleoliadau a sefydliadau diwylliannol i arallgyfeirio eu hincwm a dod yn fwy cynaliadwy yn ariannol.

Mae hefyd yn cyflwyno’r achos dros ddathlu llwyddiannau creadigol Abertawe yn fwy hyderus, drwy wella amlygrwydd talent leol a sefydlu economi greadigol y ddinas ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

CREU LLWYBRAU CLIRIACH I YRFAOEDD CREADIGOL

Nid oes prinder talent greadigol yn Abertawe. Yr her yw sicrhau bod pobl yn gallu gweld dyfodol drostynt eu hunain yma.

Mae’r strategaeth yn cynnig llwybrau cliriach rhwng addysg, datblygu sgiliau a chyflogaeth, gan helpu mwy o bobl i ddeall sut y gallant droi diddordebau a chymwysterau creadigol yn yrfaoedd go iawn.

Mae hynny’n cynnwys uchelgeisiau i ehangu mentora, preswylfeydd, lleoliadau, prentisiaethau a chyfleoedd datblygu â thâl, gan roi mwy o brofiad o weithio ar brosiectau byw i fyfyrwyr a phobl greadigol sy’n dod i’r amlwg.

Mae hefyd yn golygu dod â darparwyr addysg a chyflogwyr yn agosach at ei gilydd, gan nodi bylchau mewn sgiliau a helpu lleoliadau a sefydliadau creadigol i gysylltu â chyflenwad amrywiol o dalent leol.

Rydym am wneud mwy nag ysbrydoli pobl i ddechrau gyrfaoedd creadigol; rydym am i Abertawe fod yn rhywle lle gall talent barhau, datblygu a llwyddo.

STRATEGAETH WEDI’I HADEILADU DRWY BARTNERIAETH

Er bod y Strategaeth Diwylliant wedi’i datblygu gan Gyngor Abertawe, nid yw’n perthyn i’r cyngor yn unig.

Bydd llwyddiant y strategaeth yn dibynnu ar y bobl a’r sefydliadau sydd eisoes yn rhan o fywyd diwylliannol Abertawe; artistiaid, gweithwyr llawrydd, busnesau creadigol, lleoliadau, addysgwyr, sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol, cyllidwyr a chynulleidfaoedd.

Bydd Grŵp y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol yn helpu i arwain y maes gwaith hwn, gan ddod â’r arbenigedd a’r perthnasoedd y mae eu hangen at ei gilydd i droi uchelgeisiau’r strategaeth yn weithgaredd ymarferol.

Bydd y manylion manylach, gan gynnwys amserlenni, adnoddau, cerrig milltir a mesurau llwyddiant, yn cael eu datblygu drwy’r strwythur partneriaeth hwn; bydd cynnydd yn cael ei fonitro, gydag adroddiad blynyddol yn rhannu’r cyflawniadau, yr heriau a’r hyn a ddysgwyd.

Felly, mae lansio’r strategaeth yn nodi’r dechrau yn unig, yn hytrach na’r cynnyrch gorffenedig.

Mae’n creu cyfeiriad a rennir ar gyfer y pum mlynedd nesaf a chyfle i greu economi greadigol a diwylliannol sydd wedi’i chysylltu’n well, yn fwy gweladwy ac yn fwy uchelgeisiol, gan sicrhau bod gan bobl greadigol Abertawe’r gefnogaeth a’r cyfleoedd y mae eu hangen arnynt i ffynnu.

Bydd Abertawe Greadigol yn parhau i rannu diweddariadau, cyfleoedd a ffyrdd y gall y gymuned greadigol gymryd rhan wrth i’r gwaith ddatblygu.

Darllenwch Strategaeth Diwylliant Abertawe 2026–2031 ac archwiliwch ei gweledigaeth a’i chynllun gweithredu llawn yn www.swansea.gov.uk/swanseaculturestrategy