Skip to content

Beth yw Abertawe Greadigol?

Mae Abertawe Greadigol yn rhwydwaith deinamig sy’n tyfu, sydd wedi’i gynllunio i gefnogi, cysylltu a hyrwyddo cymuned broffesiynol fywiog Abertawe sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol a’r sector diwylliannol. P’un a ydych yn weithiwr llawrydd, yn fusnes creadigol neu’n lleoliad, rydyn ni yma i’ch helpu i ffynnu.

1
1

Ein cenhadaeth yw codi proffil, cryfhau cysylltiadau a sicrhau bod cymorth ymarferol yn fwy hygyrch. Nid arddangosfa yn unig yw hon – dyma fan cydweithredol lle gall sefydliadau creadigol adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy a llywio dyfodol diwylliannol Abertawe.

Cyflwynir Abertawe Greadigol gan Gyngor Abertawe ac fe’i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’r diwydiannau creadigol a’r sector diwylliannol yn rhan annatod o’n ffyniant economaidd, ac maent yn ganolog i hunaniaeth Abertawe a’i thwf yn y dyfodol. Mae bron 400 o fusnesau creadigol yn Abertawe, ac mae’n gartref i weithlu llawrydd pwerus sy’n gweithredu ledled y DU. Mae sector creadigol Abertawe yn cynnwys y celfyddydau, technoleg ddigidol, cerddoriaeth, lluniau symudol, perfformio a mwy. Rydyn ni yma i ymhelaethu ar yr hyn sy’n digwydd eisoes a’i gysylltu â’r hyn sydd ar ddod.

Ein Tîm

Mae Abertawe Greadigol yn cefnogi’r ecosystem greadigol broffesiynol gyfan, gan ganolbwyntio ar:

Gynnal digwyddiadau sy’n sbarduno cydweithredu a chysylltiad

Cyfeirio cyfleoedd, mannau gwaith a chymorth

Cynrychioli sector proffesiynol Abertawe yn rhanbarthol ac yn genedlaethol

Galluogi partneriaethau traws-sector

Hyrwyddo gweithwyr llawrydd a busnesau, gan gynnwys 95% o ficrofusnesau ein hecosystem.

O sefydliadau celfyddydol llawr gwlad ac orielau traddodiadol i gwmnïau cyfryngau digidol a chanolfannau creadigol, rydym yn cefnogi pob cornel o fap creadigol Abertawe. Rydym wedi ein gwreiddio yn nhreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac ethos creadigol bywiog y ddinas, ac rydym yma i helpu i annog ffyniant talent a menter – yn Abertawe, yng Nghymru ac yn y DU.

1

Ein Tîm

Mae Abertawe Greadigol yma i gysylltu pobl greadigol, rhannu adnoddau ac eirioli dros y sector. Rydym yn canolbwyntio ar:

  • Rwydweithio a Digwyddiadau: Rydym yn dod â phobl greadigol at ei gilydd drwy ddigwyddiadau sy’n sbarduno cydweithredu ac yn adeiladu hunaniaeth a rennir ar gyfer sector creadigol Abertawe.
  • Adnoddau a Chyfeirio: O gyfleoedd cyllido i stiwdios lleol, rydym yn rhannu’r offer a’r wybodaeth y mae eu hangen ar bobl greadigol er mwyn iddynt lwyddo.
  • Eiriolaeth a Chynrychiolaeth: Rydym yn hyrwyddo sector creadigol Abertawe ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, gan helpu i ddenu sylw, buddsoddiad a chefnogaeth.
  • Cydweithio traws-sector: Rydym yn hwyluso partneriaethau ar draws sectorau, o’r sector twristiaeth a thechnoleg i’r sector iechyd ac addysg, gan groesawu cynulleidfaoedd a ffrydiau refeniw newydd.
  • Cymorth i ficrofusnesau: Mae 95% o fusnesau creadigol Abertawe yn ficrofentrau (llai na 10 o bobl), felly rydym yn blaenoriaethu strwythurau cymorth sy’n gwneud twf yn fwy hygyrch.
1

Ein Gweledigaeth

Rydym yn credu y dylai Abertawe gael ei hadnabod fel rhywle lle mae gwaith creadigol yn dechrau, yn datblygu ac yn creu effaith go iawn. Rhywle lle mae talent yn cael ei feithrin, lle mae syniadau’n cael eu rhannu ac mae pobl yn cael eu gweld a’u cefnogi ar bob cam o’u taith. Rydym am i bobl greadigol, gwneuthurwyr a threfnwyr ar bob lefel deimlo fel eu bod nhw’n rhan o greadigrwydd ein dinas, ac i Abertawe gael ei chydnabod fel dinas lle mae egni creadigol yn cysylltu ar draws strydoedd, stiwdios, lleoliadau a sgriniau.

Pam Abertawe?

Mae cryfder creadigol Abertawe’n cael ei sbarduno gan ei phobl, sef y rheini sy’n meddwl yn annibynnol, y gwneuthurwyr beiddgar a’r cydweithwyr angerddol. O leoliadau hanesyddol a lleoliadau llawr gwlad i ddigwyddiadau dros dro a stiwdios newydd, mae creadigrwydd yn cael ei feithrin drwy gysylltiad, nid hierarchaeth.

Mae gennym ddwy brifysgol sy’n annog syniadau newydd, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a gweithlu llawrydd sy’n arwain y ffordd o ran arloesedd a gwydnwch. P’un a ydych yma ar gyfer cerddoriaeth, ffilm, perfformiad, gwaith digidol neu gelf weledol, mae Abertawe’n cefnogi pobl i dyfu ac yn rhoi lle iddynt arbrofi. Rydym eisoes yn cael ein cydnabod fel hwb creadigol. Nawr rydym yn adeiladu’r rhwydwaith a fydd yn ei helpu i ffynnu.

1
Mae Abertawe Greadigol ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol yn ardal Abertawe. P'un a ydych yn adeiladu busnes, yn cynnal lleoliad, yn weithiwr llawrydd neu'n dechrau eich prosiect cyntaf - mae lle i chi yma.

Gyda’n gilydd, gallwn ddatgloi potensial creadigol y ddinas a llunio dyfodol lle mae diwylliant a chreadigrwydd Abertawe yn arwain y ffordd.

Hoffech chi gymryd rhan?

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, cofrestrwch i dderbyn y newyddion diweddaraf ac ymunwch ag un o’n digwyddiadau sydd i ddod. Eich lle chi yw Abertawe Greadigol, dewch i ni ei adeiladu gyda’n gilydd.