Dan sylw: FIYA Creative a Muriau Mawr
O amgylchedd naturiol Dylan Thomas ac Abertawe i leisiau cymunedol a thirnodau eiconig y ddinas, mae cyfres o gelfweithiau ar raddfa fawr yn dod â straeon, lliw a chreadigrwydd lleol i waliau ledled canol dinas Abertawe.
Rydym yn cwrdd â sylfaenydd FIYA Creative, Hasan Kamil, i ddysgu mwy am brosiect Muriau Mawr, y cymunedau sy’n helpu i’w lunio a’r uchelgais i roi lle i artistiaid feddwl yn ehangach.
Mae Muriau Mawr yn brosiect celf gyhoeddus uchelgeisiol sy’n dod ag artistiaid, cymunedau a phartneriaid at ei gilydd i greu murluniau ar raddfa fawr ar draws canol dinas Abertawe, ochr yn ochr â chyfres o furluniau llai a fydd yn helpu i ffurfio llwybr murlun pwrpasol drwy’r ddinas.
Sefydlwyd a datblygwyd y prosiect gan gwmni FIYA Creative CIC ac fe’i hariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan droi waliau amlwg yn gelfweithiau cyhoeddus wedi’u hysbrydoli gan bobl, diwylliant, straeon ac amgylchoedd Abertawe, gan greu profiad diwylliannol am ddim a hygyrch sy’n rhan o fywyd pob dydd. Mae’r gwaith ymgysylltu cymunedol a chydlynu prosiectau yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Mioe Creative Productions, sy’n gweithio gyda grwpiau lleol i gasglu straeon, syniadau ac ymatebion creadigol a all lywio dyluniadau’r artistiaid. Mae cwmni AKA Media yn dogfennu’r prosiect drwy ffotograffiaeth a ffilm; gan ddogfennu’r murluniau, y sesiynau ymgysylltu, mewnwelediadau artistiaid ac ymatebion y cyhoedd wrth i’r llwybr ddatblygu.
Mae gan bob darn o gelfwaith ei artist, ei stori a’i broses greadigol ei hun.
Yn adeilad JT Morgan yn Grove Place, mae’r artistiaid rhyngwladol Krims a Kitsune Jolene wedi creu murlun wedi’i ysbrydoli gan Dylan Thomas. Cymerodd awduron lleol ran mewn sesiwn ymgysylltu yn Arddangosfa Dylan Thomas, gan rannu eu dehongliadau eu hunain o’i waith i helpu i lywio ymateb swrrealaidd yr artistiaid. Mae’r murlun wedi’i noddi gan Beacon.
- Yn Park Street, mae’r artist Gareth Lye yn datblygu murlun gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe. Gweithiodd yr artist gyda phobl ifanc o Circus Eruption, gan ddefnyddio gweithgareddau arlunio i greu cymeriadau a syniadau a oedd yn ategu’r dyluniad terfynol. Gan dynnu ar arddull unigryw Gareth sy’n seiliedig ar gymeriadau, mae’r gwaith yn cynnwys Castell Abertawe, ochr yn ochr â chast o greaduriaid dychmygus wedi’u creu gan adborth y cyhoedd.
- Yn Kings Lane, mae’r artist Curtis Hylton yn creu murlun gyda chefnogaeth Beacon a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae Curtis, sy’n adnabyddus am ei waith ar raddfa fawr sydd wedi’i ysbrydoli gan amgylchedd naturiol Abertawe, yn defnyddio adborth amgylcheddwyr lleol i arwain ei ddyluniad.
- Mae murlun arall gan y murlunydd a’r artist llythrennu Zoe Power wedi’i gynllunio ar gyfer Arena Abertawe, gan ddod â themâu lleisiau menywod, yr iaith Gymraeg a cherddoriaeth ynghyd. Cefnogir y gwaith gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
- Gyda’i gilydd, mae’r murluniau’n dangos sut y gall celf gyhoeddus ddod â math gwahanol o brofiad creadigol i’r ddinas; un sy’n canolbwyntio ar gymunedau a hunaniaeth, ond sydd wedi’i ddehongli drwy arddulliau unigryw artistiaid unigol.
Ariennir Muriau Mawr drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda chymorth i gyflwyno’r prosiect gan Gyngor Abertawe a nawdd gan sefydliadau ledled y ddinas.
Yn ogystal â noddi’r murlun yn Park Street, mae Cyngor Abertawe’n cefnogi’r rhaglen ehangach drwy weithio mewn partneriaeth a chefnogi’r gwaith, gan helpu i gysylltu celf gyhoeddus â’i huchelgeisiau ehangach ar gyfer diwylliant, creu lleoedd ac adfywio. Mae hyn ochr yn ochr â phrosiectau creadigol eraill a gefnogir gan y cyngor ac a gomisiynwyd ledled y ddinas.
Meddai’r Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb,
“Mae celf a diwylliant yn chwarae rhan bwysig yn economi, hunaniaeth ac ymdeimlad o le Abertawe. Maen nhw’n ychwanegu gwerth at gymunedau ac yn helpu i greu profiadau cadarnhaol i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae Muriau Mawr yn dod ag uchelgais ar raddfa fawr i gelf gyhoeddus yn y ddinas, gan ychwanegu at raglen gynyddol o furluniau ac ymyriadau creadigol, o gelfweithiau dros dro a fydd yn cael eu cynnwys ar hysbysfyrddau adeiladu ger hen Sgwâr Dewi Sant i furluniau parhaol ar waliau mewn mannau arwyddocaol yn y ddinas, gan gynnwys yn Iard Mowbray.“
Mae’r cyfan yn cyfrannu at uchelgais ehangach i gynnwys creadigrwydd yn rhan o fywyd pob dydd ledled Abertawe, gan gryfhau hunaniaeth leol wrth helpu i greu lleoedd sy’n teimlo’n unigryw, yn groesawgar ac yn fyw.
Dod â’r syniad adref
Ysbrydolwyd Hasan Kamil i greu Muriau Mawr yn dilyn blynyddoedd o weld effaith celf gyhoeddus uchelgeisiol mewn mannau eraill, ac roedd am ddod â rhywfaint o’r egni hwnnw yn ôl i’w ddinas enedigol.
Bu Hasan yn byw ym Mryste am 13 mlynedd ac mae wedi gweithio ar wyliau murluniau a phrosiectau celf gyhoeddus ar raddfa fawr ledled y DU ac yn rhyngwladol. Ar ôl symud yn ôl i Abertawe bron dwy flynedd yn ôl, roedd yn teimlo bod cyfle i greu rhywbeth yma ar raddfa nad oedd wedi’i gweld o’r blaen.
“Ar ôl dychwelyd o brosiect murlun MUQY yn Newquay, roedd gen i awydd gwirioneddol i ddod â’r un uchelgais i ganol dinas Abertawe”, meddai.
“Roedd yn bwysig bod y celfwaith o’r radd flaenaf, a’i fod yn dangos beth y gellid ei gyflawni wrth ysbrydoli artistiaid lleol i feddwl yn ehangach.”
Sefydlodd Hasan FIYA Creative CIC gyda’i bartner Brittany yn fuan ar ôl genedigaeth eu merch, Safiya, y mae’r sefydliad wedi’i enwi ar ei hôl.
Heddiw mae’r cwmni buddiant cymunedol yn Abertawe’n datblygu ac yn cyflwyno prosiectau celf gyhoeddus, murluniau a gweithdai creadigol sy’n gweithio’n agos gyda chymunedau.
Fel curadur ac arweinydd prosiect Muriau Mawr, mae rôl Hasan yn mynd y tu hwnt i baentio. Mae’n gyfrifol am gyflawni’r prosiect a goruchwylio’r weledigaeth greadigol, o feithrin partneriaethau a sicrhau lleoliadau i ddewis artistiaid, cydlynu cyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned a llywio’r her ymarferol o ddod â chelfweithiau’n fyw ar raddfa enfawr.
I Hasan, mae graddfa’r celfweithiau yr un mor bwysig â’u hygyrchedd.
“Rydw i wedi bod yn frwd am furluniau erioed oherwydd eu gallu i drawsnewid lle yn llwyr. Maen nhw’n creu oriel awyr agored am ddim i bawb ei mwynhau ac yn rhoi rhywbeth cadarnhaol i bobl gysylltu ag ef ac ymfalchïo ynddo” meddai.
Dechrau gyda phobl
Fel gyda llawer o enghreifftiau o gelfweithiau cyhoeddus, mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhan bwysig o brosiect Muriau Mawr.
Mae Mioe Creative Productions yn gweithio mewn partneriaeth â Hasan a’r artistiaid murluniau i greu cyfleoedd i wahanol grwpiau ledled Abertawe gyfrannu syniadau, atgofion a safbwyntiau sy’n berthnasol i gelfweithiau unigol. Mae’r rôl yn cynnwys hwyluso sesiynau ymgysylltu, casglu straeon a deunydd creadigol, a helpu i drosi’r cyfraniadau hynny yn friffiau hygyrch i’r artistiaid.
Mae’r sgyrsiau hynny wedi amrywio o bobl ifanc yn creu cymeriadau gyda Gareth Lye, i awduron lleol yn dehongli gwaith Dylan Thomas, ac amgylcheddwyr yn trafod bywyd gwyllt ac amgylchedd Abertawe.
Mae Hasan yn mynd i’r sesiynau ymgysylltu ac yn gweithio gyda’r artistiaid sy’n cymryd rhan wrth i’r cyfraniadau hynny ddechrau llywio eu syniadau.
Mae mewnbwn cymunedol a hunaniaeth greadigol yr artist ei hun wedi’u cynllunio i weithio ochr yn ochr â’i gilydd.
“Y nod yw bod pobl yn gweld eu hunain, eu cymuned neu eu dinas yn y murluniau ac yn teimlo ymdeimlad o berchnogaeth a balchder ynddynt,” eglura Hasan.
Y canlyniad yw celfwaith sy’n teimlo’n gysylltiedig ag Abertawe, heb ofyn i bob artist adrodd ei stori yn yr un modd.
Rhoi lle i artistiaid Abertawe dyfu
Nid yw Muriau Mawr yn ymwneud â’r hyn sy’n ymddangos ar y waliau gorffenedig yn unig. Uchelgais arall yw helpu i greu cyfleoedd i artistiaid eu hunain, yn enwedig pobl greadigol leol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg sydd am ddatblygu eu harfer.
Mae’r prosiect yn cynnwys menter ehangu, gan roi cyfle i artistiaid dethol greu gwaith ar raddfa llawer mwy, ochr yn ochr ag artistiaid murluniau sefydledig. Mae’r cam cyntaf ehangach hefyd wedi’i gynllunio i greu cyfleoedd i artistiaid sy’n dod i’r amlwg drwy weithiau llai a phartneriaethau â sefydliadau creadigol ac addysg ledled Abertawe.
Mae’n creu cyfleoedd i rannu sgiliau a phrofiad ymarferol, gan roi’r hyder i dalent sy’n dod i’r amlwg ystyried comisiynau cyhoeddus mwy yn y dyfodol.
Mae’r ymdeimlad hwnnw o bosibilrwydd yn cyd-fynd yn agos â gweledigaeth Hasan. Yn ystod ei flynyddoedd ym Mryste, gwelodd sut y gallai diwylliant gweladwy o furluniau a chelf stryd gyfrannu at ddinas sy’n teimlo’n greadigol ac yn agored i artistiaid sefydledig ac i bobl sy’n edrych ar y gwaith ac yn meddwl tybed a allai fod lle iddyn nhw yn y gymuned greadigol honno.
“Roeddwn i am ddod â rhywfaint o’r un egni i Abertawe a rhoi’r hyder i bobl feddwl eu bod nhw’n gallu cyflawni hynny hefyd”, meddai.
I gymuned greadigol ehangach Abertawe, gall cyfleoedd i wneud gwaith uchelgeisiol mewn mannau cyhoeddus gynnig llwyfan, profiad ac amlygrwydd a all fod yn anodd i’w cael mewn lleoliadau eraill. I bawb arall, maen nhw’n gwneud creadigrwydd yn rhan o’r ddinas ei hun.
Nid oes angen mynd i oriel na thalu am docyn mynediad. Gall pobl fwynhau’r murluniau hyn ar y ffordd i’r gwaith, wrth fynd i siopa, wrth gwrdd â ffrindiau neu wrth archwilio Abertawe.
Ailddychmygu bywyd pob dydd
Mae’r effaith bob dydd honno eisoes yn un o hoff ymatebion Hasan i’r prosiect.
“Mae wedi bod yn arbennig clywed pobl yn dweud bod y celfweithiau wedi bywiogi eu taith i’r gwaith ac wedi trawsnewid lleoedd yr oeddent yn eu hanwybyddu o’r blaen,” meddai.
“Mae corneli difywyd a di-liw’r ddinas bellach yn gelfweithiau cyhoeddus bywiog ag ymdeimlad gwirioneddol o berthyn.”
Mae’n enghraifft syml o’r rôl y gall creadigrwydd ei chwarae wrth greu lleoedd.
I’r cymunedau dan sylw, mae’r murluniau’n cynnig cyfle i weld syniadau a straeon lleol yn cael eu hadlewyrchu ar raddfa enfawr. I artistiaid, maent yn cynnig lle i arbrofi, cydweithio a datblygu. Ac i bawb arall sy’n mynd drwy’r ddinas, maent yn cynnig rhesymau newydd i edrych i fyny, stopio a gweld rhan gyfarwydd o Abertawe o safbwynt gwahanol.
“Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn gweld Abertawe fel dinas greadigol ac uchelgeisiol, a bod pobl leol yn teimlo bod y murluniau hyn yn rhywbeth sy’n perthyn iddyn nhw”, meddai Hasan.
Hoffech chi ddarganfod mwy am brosiect Muriau Mawr, yr artistiaid dan sylw a’r straeon y tu ôl i furluniau newydd Abertawe? Ewch i www.fiyacreative.com i ddarganfod mwy.
Starting with people
As with much good art in the public realm, community engagement is an important part of how Muriau Mawr works.
MIOE CIC works in partnership with Hasan and the mural artists to create opportunities for different groups across Swansea to contribute ideas, memories and perspectives relevant to individual works. Its role includes facilitating engagement sessions, gathering stories and creative material, and helping translate those contributions into accessible briefs for the artists.
Those conversations have ranged from young people creating characters with Gareth Lye, to local writers interpreting the work of Dylan Thomas and environmentalists discussing Swansea’s wildlife and natural surroundings.
Hasan attends the engagement sessions and works with the participating artists as those contributions begin to inform their ideas.
Importantly, community input and the artist’s own creative identity are designed to work alongside one another.
“The aim is for people to recognise something of themselves, their community or their city within the murals and feel a sense of ownership and pride in them,” Hasan explains.
The result is artwork that can feel connected to Swansea without asking every artist to tell its stories in the same way.
Giving Swansea’s artists room to grow
Muriau Mawr isn’t only about what appears on the finished walls. Another ambition is to help create opportunities for artists themselves – particularly local and emerging creatives looking to develop their practice.
The project includes a scale-up initiative, giving selected artists the chance to create work at a significantly larger scale alongside established mural artists. The wider first phase has also been designed to create opportunities for emerging artists through smaller works and partnerships with creative and education organisations across Swansea.
It creates opportunities for practical skills and experience to be shared, while giving emerging talent the confidence to consider bigger public-facing commissions in future.
That sense of possibility resonates with Hasan. During his years in Bristol, he saw how a visible culture of murals and street art could contribute to a city feeling creative and open, not just for established artists, but for people looking at the work and wondering whether there might be a place for them too.
“I want to bring some of that same energy to Swansea and create that feeling of, ‘I could do that too,’” he says.
For Swansea’s wider creative community, opportunities to make ambitious work in public spaces can offer a platform, experience and visibility that can be difficult to replicate elsewhere. For everyone else, they make creativity part of the city itself.
There is no gallery door to walk through and no ticket to buy. The encounter might simply happen on the way to work, while shopping, meeting friends or exploring Swansea.
Changing the everyday
That everyday impact is already one of Hasan’s favourite responses to the project.
“It has already been amazing to hear people say that the artwork has brightened their walk to work and transformed places they previously overlooked,” he says.
“What were once tired, drab corners of the city are now vibrant public artworks with a real sense of belonging.”
It is a simple illustration of the role creativity can play in placemaking.
For the communities involved, the murals offer an opportunity to see local ideas and stories reflected on a huge scale. For artists, they offer the space to experiment, collaborate and develop. And for everyone moving through the city, they create new reasons to look up, stop and see a familiar part of Swansea differently.
“I hope visitors see Swansea as a creative and ambitious city,” Hasan says, “while local people feel that these murals are something that belongs to them.”
Want to discover more about Muriau Mawr, the artists involved and the stories behind Swansea’s new murals? Visit www.fiyacreative.com to find out more.