Skip to content
The Project: Precious Things

Y Prosiect: Pethau Gwerthfawr

Y Prosiect: Pethau Gwerthfawr
Wrth i adnoddau’r ddaear leihau, mae mwy a mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu ac mae mwy a mwy o’r gwastraff hwnnw’n mynd i’r amgylchedd naturiol.

Dydy’r arfer o “gymryd, gwneud a gwastraffu” ddim yn gynaliadwy mwyach. Yn hytrach, rhaid inni symud tuag at ddull mwy cylchol, lle mae gwastraff yn cael ei ailddychmygu fel ‘peth gwerthfawr’; sy’n llawer rhy werthfawr i’w waredu.

Bydd Pethau Gwerthfawr yn dangos sut gall artistiaid, gwneuthurwyr, myfyrwyr a chymunedau weithio gyda’i gilydd i ysbrydoli newid drwy ymarfer creadigol.

Y Prosiect: Pethau Gwerthfawr

Bydd y prosiect yn para dwy flynedd ac yn cael ei lansio ar 11 Gorffennaf 2026. Bydd yn dechrau gydag arddangosfa sy’n procio’r meddwl gyda gwaith sy’n herio’r canfyddiad o wastraff ac yn tynnu sylw at botensial cylchol deunyddiau fel plastig, tecstilau, papur a gwydr.

Mae’r arddangosfa’n nodi dechrau dwy flynedd o raglen a fydd yn cynnwys:

– Cyfres o seminarau

– Gweithdai

– Rhaglen allgymorth cymunedol ac addysg uwch

– Creu a datblygu Rhwydwaith Artistiaid Cynaliadwy ledled Cymru

Penllanw’r rhaglen fydd Marchnad Gwneuthurwyr Cynaliadwy yn Oriel Mission ym mis Hydref 2027.

Y Nod

Un o brif uchelgeisiau’r prosiect yw rhoi hwb i rwydwaith artistiaid ledled Cymru dan arweiniad cymheiriaid, i gefnogi artistiaid profiadol ac artistiaid newydd gymhwyso, fel ei gilydd, drwy rannu arferion da, annog datblygu gwaith newydd, cydweithio, a threfnu arddangosfeydd a chyfleoedd marchnata yn y dyfodol.

Cymryd Rhan (Rhestr Bostio)
Os ydych chi’n ymddiddori mewn cynaliadwyedd ac eisiau:

Mynd i weithdai a seminarau
Dysgu am gyfleoedd yn y dyfodol, fel: Y Farchnad Gwneuthurwyr Cynaliadwy ym mis Hydref 2027 a’r Rhwydwaith Artistiaid/Gwneuthurwyr Cynaliadwy
Anfonwch e-bost at: project.preciousthings@gmail.com

Llinell pwnc: Ychwanegu at y Rhestr Bostio

Gyda diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am wneud prosiect Pethau Gwerthfawr yn bosib.

Mission Gallery

Mission Gallery

Swansea

Amdanaf fi

Mission Gallery is one of the most inspiring spaces in Wales for the contemporary arts. A unique, architecturally beautiful space, the building is a r...

Mission Gallery

Mission Gallery

Swansea

Amdanaf fi

Mission Gallery is one of the most inspiring spaces in Wales for the contemporary arts. A unique, architecturally beautiful space, the building is a r...