Skip to content
Dan Sylw: Blaine Henderson / Very_Blank_Canvas

Dan Sylw: Blaine Henderson / Very_Blank_Canvas

O fraslunio Abertawe i fod ymhlith yr artistiaid cerdyn gwyllt ar raglen Landscape Artist of the Year, mae’r darlunydd Blaine Henderson yn adeiladu arfer creadigol sy’n canolbwyntio ar gymeriadau, adrodd straeon ac arbrofi.

Pan ddaeth y rhaglen Landscape Artist of the Year i ffilmio ym Mharc Gwledig Margam, roedd yn gyfle i Blaine, darlunydd o Abertawe, brofi’r rhaglen o ochr arall y sgrin.

Mae Blaine – sy’n gweithio dan yr enw Very_Blank_Canvas – yn astudio am radd ôl-raddedig mewn Darlunio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd. Gwahoddwyd ef i gymryd rhan fel un o artistiaid cerdyn gwyllt y rhaglen ar ôl i’r cynhyrchwyr gysylltu ag Urban Sketchers Swansea wrth chwilio am bobl greadigol leol.

“Rwy’n rhan o Urban Sketchers Swansea ac rydym yn braslunio o gwmpas ardaloedd yn y ddinas neu’r ardaloedd cyfagos bob mis,” meddai. “Cysylltodd un o ymchwilwyr y sioe deledu â threfnydd y grŵp gan ei fod yn chwilio am artistiaid lleol a grwpiau celf ger yr ardal i gymryd rhan fel artistiaid cardiau gwyllt ar gyfer y bennod ym Mharc Margam.

“Pan welais i’r cyfle, roeddwn i’n teimlo bod yn rhaid i mi roi cynnig arni. Byddai’n brofiad da i mi, ac roeddwn i eisiau ymweld â Pharc Margam beth bynnag.”

Roedd cyrraedd y lle a gweld y camerâu, y criwiau a’r offer cynhyrchu o amgylch Margam yn eithaf brawychus.

“Roedd yn teimlo braidd yn ormodol gan fod llawer o bethau’n digwydd, ond roedd gweld Parc Margam yn bersonol yn wych ac roedd hynny wedi helpu gyda fy nerfusrwydd. Yn raddol, fe wnes i ddod i arfer â gweld y camerâu a’r staff drwy gydol y dydd, yn enwedig wrth i mi ymgolli mewn braslunio’r amgylchedd o’m cwmpas.

“Roedd yn ddiddorol gweld faint o offer oedd ganddyn nhw hefyd; ges i gip y tu ôl i’r llenni ar sut mae pennod yn cael ei chynhyrchu.”

Dod o hyd i olwg wahanol o’r dirwedd

Mae celf tirlun ychydig yn wahanol i arfer arferol Blaine. Mae ei waith darlunio’n cael ei ddylanwadu’n fawr gan ddylunio cymeriadau a naratif, gan gyfuno technegau analog a digidol mewn arddull cyfryngau cymysg fynegiannol. Yn hytrach na cheisio atgynhyrchu tirwedd Margam, aeth i’r afael â’r her cerdyn gwyllt yn yr un modd ag y mae’n mynd i’r afael â’i waith creadigol ehangach; drwy chwilio am fanylion unigol a allai adrodd stori.

“Yn hytrach na chyfleu’r olygfa gyfan, fe wnes i gyfyngu fy sylw i rannau llai; coed neu ddail, toeau’r castell neu’r bobl oedd yn mynd heibio.

“Roeddwn i eisiau cyfleu golygfeydd yr oeddwn i’n meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol fel darluniau yn y dyfodol.”

Gyda phin brwsh a brwsh dŵr, dechreuodd fraslunio beth bynnag a ddenodd ei sylw cyn arbrofi gyda dyfrlliwiau a phasteli cwyr. Nid oedd pob arbrawf wedi gweithio’n llwyr.

“Dydw i ddim fel arfer yn defnyddio dyfrlliwiau pan fyddaf yn yr awyr agored oherwydd dydw i ddim yn hoffi cario offer paentio o gwmpas, ond fe wnes i roi cynnig arni. Yn anffodus, doedd y canlyniadau ddim mor dda ag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl ond roedd yn werth rhoi cynnig arni beth bynnag.”

A beth am ei atgofion o’r dydd?

“Roedd mynd o gwmpas Parc Margam yn un ohonyn nhw. Roedd gweld yr adeiladau a’r amgylchedd yn anhygoel, a byddwn wrth fy modd yn mynd yn ôl yno i wneud mwy o frasluniau. Cefais gyfle hefyd i gwrdd â Stephen Mangan am gyfnod byr wrth iddo fynd o gwmpas yn cyfarch yr artistiaid cardiau gwyllt.

“Llwyddais i losgi fy wyneb a’m gwddf yn yr haul hefyd, a doedd dim modd cuddio hynny!”

Creu cymeriadau a bydoedd

Mae’r parodrwydd hwnnw i arbrofi yn ganolog i arfer ehangach Blaine, gan gymryd ysbrydoliaeth gan artistiaid gan gynnwys Yoshitaka Amano a Sui Ishida, ac mae ei waith yn cyfuno cyfryngau traddodiadol a digidol, gyda darluniau sy’n canolbwyntio ar wneud marciau mynegiannol, cymeriadau ac adrodd straeon cynnil.

“Rwy’n gallu ymgolli yn fy ngwaith pan fyddaf yn chwarae o gwmpas gyda deunyddiau amrywiol ac yn mynegi fy meddwl neu fy nheimladau drwy haenau o farciau a gweadau,” meddai.

“Rwy’n credu bod iaith o fewn gwneud marciau; lle mae gan bob offeryn ei ystyr ei hun. Rwy’n defnyddio hynny yn fy mhroses cyfryngau cymysg a chyda naratif neu awyrgylch sylfaenol fy narnau.”

Mae cymeriadau wedi bod yn ei gyfareddu ers amser maith, gan annog ei ddiddordebau mewn ffasiwn, lluniadu ffigurau, comics, gemau, mytholeg a llên gwerin.

“Rwy’n mwynhau creu cymeriadau â hunaniaeth neu gymeriadau â stori y tu ôl iddyn nhw. Mae’n hwyl creu cymeriadau ar gyfer yr elfen weledol yn unig, ond pan fyddwch chi’n adeiladu naratif o’u cwmpas, mae bron yn teimlo fel eich bod chi’n creu byd ar eu cyfer.

“Dwi ddim yn hoffi canolbwyntio arnaf fy hun yn fy ngwaith. Dwi’n meddwl bod y cymeriadau hyn weithiau’n ffordd o ddianc; hyd yn oed pan maen nhw wedi’u dylanwadu gan rannau ohona i.”

Adeiladu arfer creadigol yn Abertawe

Graddiodd Blaine o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2024, gan dderbyn Gwobr Darlunio Rhys Bevan Jones, ac ers hynny mae wedi parhau yn y brifysgol ar lefel ôl-raddedig wrth arddangos ei waith mewn orielau gan gynnwys Oriel Mission, Oriel Mostyn, Oriel Myrddin ac Oriel Gelf Glynn Vivian.

Mae hefyd wedi bod yn ehangu ei arfer i wneud printiau, yn enwedig argraffu â leino a sgrin-brintio monoteip.

Roedd derbyn y wobr darlunio ar ddiwedd ei radd BA yn hwb mawr i’w hyder.

“Roedd yn teimlo fel bod yr holl waith caled i gyflawni fy ngradd BA, ochr yn och â’r daith i ddiffinio fy hun fel darlunydd, yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi’n wirioneddol. Mae wedi helpu gyda fy hyder pryd bynnag rydw i weithiau’n teimlo’n ansicr ohonof fy hun.”

Mae’r ansicrwydd hwnnw hefyd yn rhywbeth y mae’n credu y dylai artistiaid eraill sy’n dod i’r amlwg ddysgu i’w ddatblygu yn hytrach na’i ofni.

“Gall derbyn beirniadaeth adeiladol eich helpu i dyfu fel ymarferydd, felly peidiwch â gadael iddi effeithio ar eich hyder. Mae cyngor yn oddrychol ac efallai na fydd bob amser yn berthnasol i chi, ond rwy’n credu ei fod yn werth ei ystyried. Os nad yw’n gweithio, o leiaf rydych chi wedi rhoi cynnig arni.

“Rwy’n credu hefyd y dylech chi greu beth bynnag rydych chi’n angerddol amdano, a defnyddio’r angerdd i’ch arwain i fod pwy  yr hoffech chi fod fel ymarferydd.

“Gall rhwydweithio fod yn anodd, ond mae’n angenrheidiol eich bod yn weladwy. Ac yn olaf, mae’n bwysig eich bod yn edrych ar ôl eich hun.”

Felly, beth nesaf?

Mae Blaine yn awyddus i archwilio sawl cyfeiriad yn y dyfodol.

Drwy ei waith diweddar, mae wedi bod yn arbrofi gydag awyr a chymylau, gan gynnwys eu perthynas ag iechyd meddwl ac emosiwn, ac mae hefyd yn ystyried ysgrifennu stori fer neu stribed comig a dychwelyd i argraffu â leino.

“Mae cynifer o syniadau rydw i’n meddwl amdanynt bob hyn a hyn, ac rwy’n cadw cofnod ar restr fel nad ydw i’n eu hanghofio,” meddai.

“Yn y pen draw, hoffwn i bobl weld fy angerdd am greu cymeriadau a gwneud marciau mynegiannol yn fy narluniau. Yn fwy na hynny, rwyf am iddyn nhw deimlo’r ymdeimlad hwnnw o naratif neu emosiwn sylfaenol sy’n atseinio eu profiadau yn y gorffennol.”

O ddiwrnod fel artist cerdyn gwyllt ym Margam i arddangosfeydd ledled Cymru, mae arfer Blaine yn parhau i esblygu, ac mae ei barodrwydd i arbrofi, dysgu a pharhau i ychwanegu syniadau newydd at y rhestr yn golygu ei fod yn un na ddylech ei golli.