Dan Sylw: Elysium a JT Morgan
Mae Oriel Elysium yn enghraifft berffaith o isadeiledd diwylliannol dan arweiniad artistiaid: mae’n ymarferol ac yn wydn ac fe’i hadeiladwyd o’r gwaelod i fyny.
Fe’i sylfaenwyd yn 2007 i gefnogi a hyrwyddo’r celfyddydau yn Abertawe a’r tu hwnt, ac mae’n rhoi pwyslais ar gydweithredu a chymuned, gan greu cyfleoedd i artistiaid y mae angen mwy nag amlygrwydd arnynt. Mae angen lle, cymheiriaid, isadeiledd fforddiadwy a phlatfform arnynt.
Yr hyn sy’n bwysig am Elysium yw nad oriel yn unig ydyw. Mae wedi meithrin ecosystem ehangach o stiwdios, arddangosfeydd, cyfleoedd datblygu a chymorth creadigol, gan ei disgrifio ei hun fel menter dan arweiniad artistiaid sy’n cynnwys mwy na 90 o fannau stiwdio ac oriel gyfoes ar draws sawl lleoliad yn Abertawe. Mae hynny’n bwysig gan fod darparu stiwdios yn un o’r ffactorau tyngedfennol ar gyfer dinas greadigol. Heb fan gwaith fforddiadwy, mae artistiaid yn gadael. Heb bresenoldeb gweladwy, canolog, caiff creadigrwydd ei wthio i’r ymylon.
Cam nesaf y stori honno yw hen adeilad JT Morgan ar Belle Vue Way: safle manwerthu arloesol a fu’n wag ers 2008 ond sydd bellach yn cael ei ddefnyddio eto fel hafan i weithwyr proffesiynol creadigol, arlunwyr, gwneuthurwyr ac artistiaid eraill.
Drwy gymorth buddsoddiad gan Gyngor Abertawe, mae’r prosiect yn addasu adeilad a fu’n wag ers amser hir at ddibenion isadeiledd diwylliannol gweithredol: stiwdios, oriel, ystafelloedd addysg, man cyfarfod a chaffi sy’n adfer cynhyrchu creadigol i ganol Abertawe.
Dyma’r rheswm pam mae’r prosiect yn fwy nag Elysium. Mae’n ymwneud ag adfywio canol y ddinas drwy ddiwylliant. Mae addasu adeilad manwerthu eiconig at ddibenion cynhyrchu creadigol yn gweddnewid y naratif, gan droi adeilad gwag yn gymuned llawn goleuadau a phobl sy’n cynhyrchu gwaith.
Yn ogystal â bod yn gartref i 63 o fannau gwaith newydd i artistiaid, bydd yr adeilad yn cynnwys oriel gelf newydd, caffi, swyddfeydd, a mannau ar gyfer addysg a chyfarfodydd. Mae’n creu’r amgylchiadau y mae eu hangen ar artistiaid a busnesau creadigol i weithio, cysylltu, profi syniadau a meithrin arferion cynaliadwy yn y ddinas, yn hytrach nag ar yr ymylon.
Mae’r math hwnnw o isadeiledd yn gwneud gwahaniaeth oherwydd nad yw gwaith creadigol yn ffynnu ar ei ben ei hun. Mae angen ar bobl greadigol rent fforddiadwy, ystafelloedd sydd ar gael iddynt, waliau i arddangos eu gwaith arnynt, rhwydweithiau i’w galluogi i dyfu, ac ymdeimlad o gymuned broffesiynol. Mae model Elysium yn cefnogi’r logisteg feunyddiol ar gyfer creu: y sylfeini tawel ac ymarferol sy’n galluogi artistiaid i ddal ati.
Bydd oriel newydd Elysium yn agor i’r cyhoedd nos Wener 12 Mehefin am 6pm gydag arddangosfa unigol gan Andre Stitt, artist perfformio a gweledol yng Nghymru a aned yn Iwerddon sydd wedi arddangos ac wedi perfformio’n rhyngwladol ers mwy na phedwar degawd. Bydd rhaglen llawn sgyrsiau gan yr artist a gweithdai’n cyd-fynd â’r arddangosfa wrth iddi bara am chwe wythnos.
Mae’r rhaglen ehangach ar gyfer 2026/27 yn dangos graddfa’r uchelgais sy’n sail i’r fenter. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys paentiadau a gosodweithiau newydd gan yr artistiaid o Gymru Charlotte Brisland, Susan Adams a Zena Blackwell ym mis Awst a mis Medi; arddangosfa newydd gan Richard Billingham ym mis Hydref fel rhan o ŵyl Ffotogallery, Ffoto Cymru; arddangosfa gan ddau artist sydd wedi derbyn Gwobr Breswyl Artistiaid Newydd Elysium, Luke Cotter a Hollie Wilkins, ar ddiwedd 2026; ac, o fis Chwefror i fis Mai 2027, y British Art Show, wedi’i churadu gan Ekow Eshun mewn cydweithrediad ag Oriel Gelf Glynn Vivian a Hayward Gallery Touring.
Bydd y brif raglen hefyd yn cyd-fynd â chyfres o arddangosfeydd yn y caffi gan yr artistiaid o Gymru Hannah Jones, Gemma Ellen Williams, Tracy Harris a tactileBOSCH.
Ar gyfer yr artistiaid sydd wedi symud yno, mae’r fenter o werth ymarferol ac emosiynol. Mae deiliaid stiwdios yn disgrifio pwysigrwydd bod yng nghanol y ddinas, yn agos at gludiant cyhoeddus, orielau, y brifysgol a rhwydweithiau diwylliannol ehangach. Maent yn siarad am fannau gwaith fforddiadwy, cyfleusterau a mynediad gwell, amlygrwydd proffesiynol a’r hyder sy’n deillio o fod yn rhan o gymuned greadigol.
Mae Elysium a JT Morgan yn gwneud mwy nag ychwanegu cyrchfan diwylliannol arall. Maent yn cynnal y bobl sy’n creu diwylliant – artistiaid, addysgwyr, gwneuthurwyr, curaduron, technegwyr, busnesau creadigol a phobl dalentog newydd.
"Mae lansio oriel a stiwdios newydd Elysium yn dechrau pennod newydd gyffrous i'n sefydliad yn ogystal â bywyd diwylliannol Abertawe a Chymru'n ehangach. Mae mannau dan arweiniad artistiaid fel hyn yn hollbwysig gan eu bod yn rhoi'r rhyddid, yr adnoddau a'r gymuned y mae eu hangen ar bobl greadigol i arbrofi, cydweithredu a thyfu. Drwy gynnig stiwdios, mannau arddangos a phlatfform i artistiaid ar bob cam o'u gyrfa, rydym yn helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o Gymry talentog ac yn cyflwyno syniadau newydd a safbwyntiau rhyngwladol i'r ddinas. Ein nod o'r dechrau'n deg fu gwneud Abertawe'n ganolfan ddiwylliannol ddeinamig – rhywle y mae artistiaid am aros, gweithio ac adeiladu dyfodol ynddo – ac mae'r lleoliad newydd hwn yn ein galluogi i atgyfnerthu'r ymrwymiad hwnnw i'r ddinas a byd celfyddydau ehangach Cymru. "
— Meddai Jonathan Powell, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Elysium
Mae Elysium a JT Morgan yn cynrychioli isadeiledd beunyddiol creadigrwydd: mannau fforddiadwy, cymuned broffesiynol, amlygrwydd cyhoeddus a hafan i gynhyrchu diwylliannol yng nghanol y ddinas. Mae sicrhau bod gan artistiaid rywle i greu gwaith, cwrdd â’i gilydd, dangos syniadau, meithrin gyrfaoedd ac aros ynddo yn cryfhau bywyd creadigol Abertawe.