Skip to content
Cerddoriaeth yn dychwelyd i Barc Singleton wrth i Abertawe lansio cyfres newydd o gyngherddau haf ar gyfer 2027

Cerddoriaeth yn dychwelyd i Barc Singleton wrth i Abertawe lansio cyfres newydd o gyngherddau haf ar gyfer 2027

Bydd perfformwyr poblogaidd yn dychwelyd i Barc Singleton yr haf nesaf wrth i Gyngor Abertawe gyhoeddi partneriaeth newydd gyffrous a fydd yn dod â digwyddiadau cerddoriaeth fyw mawr yn ôl i un o leoliadau awyr agored mwyaf enwog y ddinas.

Mae Cyngor Abertawe wedi ffurfio partneriaeth â Full Fat 360, DEPOT Live a Cuffe & Taylor i lansio Singleton Live, cyfres newydd sbon o ddigwyddiadau cerddoriaeth a gynhelir ym Mharc Singleton yn ystod haf 2026.

Mewn gorchest nodedig i Abertawe, bydd pob artist a gyhoeddir fel rhan o’r gyfres yn perfformio un cyngerdd yn unig yng Nghymru, felly Abertawe fydd yr unig ddinas yn y wlad lle gall cynulleidfaoedd fwynhau’r sioeau hyn y flwyddyn nesaf.

Gall preswylwyr ac ymwelwyr hefyd gael mynediad cynnar at docynnau. Bydd pobl sydd wedi tanysgrifio i e-gylchlythyr Croeso Bae Abertawe yn derbyn côd i brynu tocynnau cyn iddynt fynd ar werth i’r cyhoedd.

I gofrestru, ewch i www.croesobaeabertawe.com/cofrestru a dewiswch ‘newyddion am ddigwyddiadau’ fel un o’ch dewisiadau tanysgrifio.

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe,

“Mae’n newyddion cyffrous i Abertawe a phobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth yng Nghymru. Mae Parc Singleton wedi cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw anhygoel dros y blynyddoedd, gan greu atgofion y mae pobl yn eu trafod hyd heddiw.

“Rydym yn falch o ddod â cherddoriaeth fyw yn ôl i’r parc trwy’r bartneriaeth newydd hon. Mae gan Abertawe frwdfrydedd mawr dros gerddoriaeth a bydd Singleton Live yn helpu i hybu’r enw da hwnnw ymhellach.

“Mae’r ymrwymiad i ail-fuddsoddi cyfran o ffi yr hyrwyddwyr mewn lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad hefyd yn golygu y bydd y manteision yn cael eu gweld gan y diwydiant cerddoriaeth llawr gwlad yn ein dinas. Dyma bennod newydd gyffrous i gerddoriaeth fyw yn Abertawe, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddatgelu’r hyn sy’n dod nesaf.”

Mae gan Barc Singleton hanes balch o groesawu rhai o’r perfformwyr mwyaf poblogaidd ym myd cerddoriaeth. Dros y blynyddoedd mae’r lleoliad wedi croesawu artistiaid fel Stereophonics, Madness, Nile Rodgers & Chic, Catfish and the Bottlemen a Noel Gallagher’s High-Flying Birds. Mae hefyd wedi cynnal Y Penwythnos Mwyaf gan y BBC, a oedd wedi dod â sêr byd-eang gan gynnwys Taylor Swift, Florence + the Machine, ac Ed Sheeran i Abertawe.

Mae lansio digwyddiad Singleton Live yn adlewyrchu enw da hirsefydlog Abertawe fel dinas sy’n dathlu cerddoriaeth. Mae cerddoriaeth fyw yn chwarae rhan hanfodol wrth greu dinasoedd bywiog a chynhwysol, denu ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chryfhau hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae digwyddiadau mawr yn cynhyrchu manteision economaidd sylweddol wrth i ymwelwyr wario arian ar lety, lletygarwch, manwerthu a thrafnidiaeth, wrth helpu i godi proffil Abertawe fel cyrchfan ar gyfer diwylliant ac adloniant.

Hefyd, bydd Singleton Live yn cefnogi’r ecosystem gerddoriaeth ehangach ar draws y ddinas. Fel rhan o’r cytundeb partneriaeth, bydd canran o’r ffioedd a gynhyrchir yn cael eu dosbarthu i leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad Abertawe, gan helpu i gefnogi perfformwyr sy’n dod i’r amlwg, cynnal lleoliadau annibynnol a chryfhau dyfodol cerddoriaeth fyw yn lleol.

Meddai Oli Bartlam, Sylfaenydd Full Fat 360,

“Mae gan Barc Singleton dreftadaeth gerddoriaeth fyw anhygoel, ac rydym yn hynod gyffrous i ychwanegu at hyn gyda rhywbeth newydd i Abertawe. Nod digwyddiad Singleton Live yw dod ag artistiaid mawr a sioeau arbennig i un o leoliadau awyr agored enwocaf Cymru. Rydym yn hynod falch o weithio gyda Chyngor Abertawe, DEPOT Live a Cuffe & Taylor i greu cyfres o sioeau a all fod yn un o brif ddigwyddiadau calendr cerddoriaeth yr haf yn y DU.”

Byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach am Singleton Live, gan gynnwys manylion am y prif ddigwyddiad cyntaf, yn fuan.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i www.croesobaeabertawe.com/SingletonLive