Skip to content
Dan sylw: Canolfan ac Arddangosfa Dylan Thomas

Dan sylw: Canolfan ac Arddangosfa Dylan Thomas

Cadw, Dathlu ac Ysbrydoli Talent Lenyddol

Mae Canolfan Dylan Thomas yn adeilad diwylliannol nodedig yng nghanol Abertawe. Nod yr adeilad, a gafodd ei sefydlu ym 1995 fel Tŷ Llên a’i agor yn swyddogol gan gyn-arlywydd yr Unol Daleithiau Jimmy Carter, oedd rhoi presenoldeb cyhoeddus parhaol i ysgrifennu, y gair llafar a diwylliant llenyddol yn y ddinas. Mae’r ganolfan yn angori perthynas Abertawe ag un o lenorion byd-enwog Cymru ac mae’n cynnig canolbwynt gweladwy i etifeddiaeth lenyddol yng nghanol y ddinas.

Ers iddi agor, mae’r ganolfan wedi gwneud cyfraniad pwysig at lunio sut mae bywyd a gwaith Dylan Thomas yn cael eu cyflwyno a’u deall, yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae wedi croesawu ymwelwyr, ymchwilwyr, darlledwyr a chynulleidfaoedd llenyddol o bedwar ban byd, gan atgyfnerthu statws Abertawe fel dinas sydd â hunaniaeth lenyddol unigryw a chysylltiad cryf rhwng lleoedd, diwylliant a chreadigrwydd.

Mae Arddangosfa Dylan Thomas wrth wraidd y ganolfan, gan ddarparu’r rhaglen ddiwylliannol gyhoeddus. Mae’r arddangosfa’n gwireddu diben y ganolfan drwy gasgliadau, dehongliadau, dysgu ac ymgysylltu creadigol, gan drawsnewid treftadaeth lenyddol yn brofiad gweithredol a hygyrch.

Bu datblygiad sylweddol pan agorwyd Dwlu ar y Geiriau ar 27 Hydref 2014, gan nodi canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas. Drwy gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a chyllid gan Gyngor Abertawe, nod yr arddangosfa oedd cynnig amgylchedd rhyngweithiol sy’n ystyriol o deuluoedd yn hytrach na bod yn arddangosfa sefydlog. Ochr yn ochr â dehongliadau parhaol, mae’n cynnwys man dysgu ac ardal arddangos dros dro, gan alluogi’r rhaglen i barhau i fod yn hyblyg, yn ymatebol ac yn gyfoes.

Mae casgliadau’r arddangosfa’n cynnig dwyster ac awdurdod. Yn ogystal â bod yn eicon llenyddol, mae gwrthrychau, recordiadau, ffotograffau, llawysgrifau, llythyrau a phethau cofiadwy’n dangos bod Dylan Thomas yn llenor wrth ei waith a oedd yn cael ei lywio gan berfformio, cyhoeddi a chydweithredu. Gosodir llawysgrifau drafft, nodiaduron a gohebiaeth ochr yn ochr â gwaith allweddol fel Under Milk Wood ac A Child’s Christmas in Wales, gan wneud y broses greadigol yn weladwy ac yn ddiriaethol.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cefnogi rhaglen ymgysylltu a chyfranogi eang. Mae wedi cyrraedd rhestr fer Kids in Museums am wobr yr Amgueddfa Fwyaf Addas i Deuluoedd yn 2023, 2024 a 2025, gan gydnabod safon a chynwysoldeb ei harlwy. Darperir gweithgareddau i’r teulu drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol, ochr yn ochr ag adnoddau synhwyraidd a gweithdai tawel i gefnogi amrywiaeth ehangach o ymwelwyr.

Mae datblygu ysgrifennu fel celfyddyd fyw yn thema gyson yng ngwaith yr arddangosfa. Drwy Sgwad Sgwennu’r Ifanc, sy’n hirsefydlog, darperir gweithdai ysgrifennu creadigol am ddim i blant a phobl ifanc, dan arweiniad awduron proffesiynol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cefnogi pobl dalentog sy’n dod i’r amlwg ac yn dangos bod ysgrifennu’n rhan sylfaenol o’r economi greadigol ehangach.

Mae’r arddangosfa hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar fynediad, cynhwysiant a chydgynhyrchu. Mae gwaith gyda Your Voice Advocacy yn helpu i wneud dehongliadau ac ymgysylltiad yn fwy hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu. Yn ystod haf 2025, dyfarnwyd statws Canolfan Noddfa’r Celfyddydau i’r arddangosfa gan yr elusen City of Sanctuary, gan gydnabod ei gwaith creadigol gyda phobl sy’n ceisio noddfa yn Abertawe a’i hymrwymiad i ddiwylliant fel ymarfer dinesig.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r arddangosfa’n parhau i gyfuno treftadaeth â llais cyfoes. Mae’n cynnal etifeddiaeth ryngwladol Dylan Thomas wrth greu lle ar gyfer ysgrifennu newydd, gweithgareddau dwyieithog, diwylliant gair llafar a dehongliadau cyfoes. Mae ei chyfraniad at ddarn am Dylan Thomas ar Antiques Roadshow yn adlewyrchu ei hamlygrwydd a’i pherthnasedd parhaus.

Gyda’i gilydd, mae Canolfan Dylan Thomas ac Arddangosfa Dylan Thomas yn gaffaeliad diwylliannol unigryw i Abertawe: lleoliad dinesig sy’n cynnal rhaglen ddiwylliannol gynhwysol a chyhoeddus o safon. Maent yn dangos sut gellir dehongli, rhannu a datblygu treftadaeth lenyddol mewn modd gweithredol, gan atgyfnerthu hunaniaeth ddiwylliannol y ddinas, yn ogystal â pharhau i roi pwyslais ar leoedd, pobl ac ymarfer.

"Rydym yn rhannu gwaith ysgrifennu a chyd-destun Dylan Thomas â chymunedau drwy ein harddangosfa ryngweithiol, a'n gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu hygyrch a chyffrous. Mae ymwelwyr o bob oed yn mwynhau archwilio'r arddangosfeydd ac ymuno yn ein gweithdai, ac mae bob amser yn gyffrous pan fydd cyfranogwyr yn dangos y gwaith y cawsant eu hysbrydoli i'w greu eu hunain. "

— Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth, Canolfan Dylan Thomas