DATGANIAD I’R WASG: ABERTAWE GREADIGOL YN LANSIO PLATFFORM DIGIDOL NEWYDD I GYSYLLTU A HYRWYDDO SECTOR CREADIGOL Y DDINAS
Mae Abertawe Greadigol wedi lansio platfform digidol newydd i gysylltu ymarferwyr, sefydliadau a busnesau ar draws ecosystem greadigol a diwylliannol Abertawe.
Mae gwefan abertawegreadigol.com wedi cael ei llunio drwy ymgynghoriadau, trafodaethau bord gron ac ymgynulliadau wyneb yn wyneb yn y sector, gan ymateb yn uniongyrchol i’r hyn y dywedodd y sector wrthym fod ei angen arno: hafan ddigidol gyffredin i ddod o hyd i gydweithwyr proffesiynol, darganfod cyfleoedd yn hawdd a chynyddu graddfa ac amlygrwydd y sector yn y rhanbarth.
"Mae diwylliant a chreadigrwydd wrth wraidd hunaniaeth Abertawe – ac maent hefyd yn rhan gynyddol o'n heconomi. O weithwyr llawrydd a busnesau creadigol bach i sefydliadau diwylliannol mawr, mae'r sector creadigol yn cefnogi swyddi, sgiliau a buddsoddi ledled y ddinas ac yn y rhanbarth ehangach. Mae Abertawe Greadigol yn dod â'r gwerth diwylliannol ac economaidd hwnnw ynghyd yn yr un lle, gan ei gwneud yn haws i bobl gysylltu, cydweithio a thrawsnewid doniau creadigol yn weithgarwch cynaliadwy sydd o fudd i'n cymunedau a'n dinas."
— Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol, Parciau a Glanhau
Mae’r wefan wedi’i hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei chyflwyno gan Gyngor Abertawe, yn adeiladu ar raglen o weithgaredd dan arweiniad y sector. Bydd Abertawe Greadigol yn cynnal digwyddiad rhwydweithio nos Fercher 27 Mai 2026 (6pm-8pm) yn Theatr y Grand lle bydd cyfle i dîm Abertawe Greadigol nodi’r achlysur hwn a bod ar gael i ateb eich cwestiynau. Bydd y digwyddiad rhwydweithio am ddim yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o’r sector i gwrdd â chydweithwyr, cyfnewid syniadau ac atgyfnerthu cysylltiadau rhwng cymheiriaid – cyn parhau â’r sgyrsiau hynny drwy’r platfform ar-lein newydd.
Bydd y wefan yn cynnwys:
- cyfeiriadur y gellir ei ddefnyddio i chwilio am weithwyr proffesiynol, busnesau a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector
- rhestrau o ddigwyddiadau a chyfleoedd arddangos a rhwydweithio
- swyddi, comisiynau, galwadau agored a chyfleoedd yn y sector
- newyddion, dealltwriaeth, astudiaethau achos prosiectau a broliannau yn y sector
- y newyddion diweddaraf am weithgareddau, rhaglenni a digwyddiadau Abertawe Greadigol
Lluniwyd y wefan fel platfform byw ochr yn ochr â’r sector dros amser drwy rannu mewnbwn, cynnwys aelodau a chyfranogiad parhaus gan aelodau’r gymuned.
Mae Abertawe Greadigol yn cefnogi uchelgeisiau Strategaeth Diwylliant Abertawe drwy hyrwyddo diwylliant fel rhan allweddol o hunaniaeth y ddinas a sbardun swyddi, sgiliau a thwf economaidd cynaliadwy ledled y rhanbarth ehangach.
"Mae Abertawe Greadigol yn cefnogi uchelgeisiau Strategaeth Diwylliant Abertawe drwy hyrwyddo diwylliant fel rhan allweddol o hunaniaeth y ddinas a sbardun swyddi, sgiliau a thwf economaidd cynaliadwy ledled y rhanbarth ehangach. Mae'r platfform yn adlewyrchu cryfder ac amrywiaeth sector creadigol a diwylliannol Abertawe, gan helpu ymarferwyr a sefydliadau i gysylltu, cydweithio a chael mynediad at gyfleoedd sy'n cefnogi gwaith creadigol tymor hir ac economi leol wydn."
— Nerys Evans, Rheolwr Strategol y Celfyddydau, Diwylliant a'r Economi Greadigol
Mae Abertawe Greadigol yn gwahodd gweithwyr creadigol, sefydliadau diwylliannol a phartneriaid i wneud cyfraniad gweithredol – p’un ai drwy rannu stori neu brosiect, cyhoeddi cyfle neu alwad agored, neu awgrymu ffyrdd y gall y platfform wasanaethu’r sector yn well.
Er mwyn cadw lle yn nigwyddiad cymysgu cymdeithasol Abertawe Greadigol i ddathlu lansio’r wefan ar 27 Mai, ewch i www.ticketsource.com/creative-swansea-network
Mae tocynnau am ddim ond mae’n rhaid cadw lle. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac ymuno â rhwydwaith Abertawe Greadigol drwy fynd i www.abertawegreadigol.com
Neu e-bostiwch y tîm yn contactcreative@abertawe.gov.uk.