CYLLID I BOBL IFANC DRWY RAGLEN HYFFORDDIANT ‘CYNTAF O’I MATH’ YN NIWYDIANT CERDDORIAETH CYMRU
Gwahoddir pobl ifanc 18-30 oed yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe i wneud cais am raglen Hyfforddiant Diwydiant Cerddoriaeth Llawr Gwlad newydd Beacons Cymru
Rhwng 10 Awst a 7 Medi, mae Beacons Cymru yn derbyn ceisiadau ar gyfer rhaglen hyfforddiant newydd gyffrous sy’n cynnig cyfleoedd ‘cefn llwyfan’ i bobl ifanc.
Dros chwe mis, bydd 13 cyfranogwr yn cael cyllid a hyfforddiant o safon y diwydiant, gan eu paratoi â sgiliau newydd a’u helpu i greu cysylltiadau newydd. Mae’r cyllid yn cyfrannu at offer a thair sesiwn fentora un i un gydag arbenigwr personol o’r diwydiant cerddoriaeth, ochr yn ochr ag arweiniad pwrpasol tan fis Mawrth 2027.
Boed am ddysgu am beirianneg sain, technoleg goleuo, cydlynu artistiaid, rheoli digwyddiadau neu reoli llwyfan, gweithrediadau cefn llwyfan neu gyfathrebu; mae Beacons Cymru yn ymroddedig i rannu gwybodaeth a meithrin cyfleoedd gyda’u rhaglen hyfforddiant newydd.
Bydd cyfranogwyr yn cael cynnig sifftiau a phrofiad cysgodi gyda staff yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, y Corn Exchange a Le Pub yng Nghasnewydd, a’r Bunkhouse yn Abertawe, gyda chymhorthdal ar gyfer costau a chostau teithio fel bod modd i hyfforddeion arbrofi gydag amrywiaeth o senarios.
Ar ddiwedd yr hyfforddiant, bydd cyfranogwyr ym mhob ardal yn cydweithio i guradu a chynnal arddangosiad cerddoriaeth fyw yn eu lleoliad llawr gwlad nhw. Byddan nhw’n llunio rhaglen y noson, yn hyrwyddo’r digwyddiad ac yn cymryd cyfrifoldeb am ei chyflwyniad technegol a gweithredol, gan roi dysgu ar waith mewn amgylchedd proffesiynol.
Bydd hefyd cyfle am waith â thâl yn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, digwyddiadau yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, digwyddiadau proffil uchel yng Nghasnewydd ac Abertawe, ac mewn cynhadledd flynyddol i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghaerdydd – sef Uwchgynhadledd Beacons Cymru.
Mae’n anodd iawn dod o hyd i swyddi yn sector y celfyddydau, ac nid yw meddu ar y sgiliau yn ddigon. Mae cysylltiadau’n bwysig, a nod Beacons Cymru yw codi’r llen ar sut i gael swydd a rhoi mynediad i ddoniau ifanc newydd.
Roedd Ceyda Vale, 26 oed, yn gyfranogwr ar Resonant yn 2023, sef un o raglenni sgiliau’r diwydiant eraill Beacons Cymru. Roedd hi newydd adael swydd mewn caffi gyda’r gobaith o feithrin ei sgiliau creadigol ochr yn ochr â’i ffotograffiaeth.
Meddai: “Meddyliais, os o’n i am fynd yn llawrydd, y byddai’n rhaid i fi ddysgu gwneud mwy nag un peth. Mae’n rhaid i bawb amrywio, felly ro’n i eisiau gwybod beth arall allwn i ei wneud gyda fy mhrofiad – heb ddod o gefndir cerddorol o gwbl.
“Cynigiodd Beacons gyfle i fi gysgodi technegydd sain yn Clwb, felly cofrestrais i ar gyfer hynny. Fel ro’n i’n disgwyl, aeth popeth dros fy mhen i braidd. Roedd gen i amser dros ben felly gofynnais i os gallwn i chwarae gyda’r goleuo.”
Cynigiodd mentor Ceyda, y rheolwr technegol Joe Marvelly yng Nghlwb Ifor Bach, gyfle iddi weithredu’r ddesg oleuo ar gyfer sioe fyw y noson honno. Wedi hynny, trefnodd Beacons Cymru fwy o sifftiau i Ceyda yn Clwb.
Meddai: “Yn y pen draw, cefais gynnig i weithio yng Ngŵyl Sŵn fel technegydd goleuo cyflogedig.
“Roedd hi mor hyfryd cael fy nghyflwyno i’r amgylchedd yna mewn ffordd lle ro’n i’n teimlo’n gyfforddus. Roedd hi’n teimlo’n iawn gofyn cwestiynau, a do’n i ddim yn teimlo cywilydd. Do’n i ddim yn teimlo bod angen i fi esgus gwybod mwy nag o’n i.”
Mae Ceyda’n dal i weithio’n llawrydd i ŵyl flynyddol Sŵn, ac erbyn hyn mae hi wedi gweithio fel technegydd goleuo i glwb nos The Piano Works yng Nghaerdydd, wedi cynllunio’r goleuo ar gyfer fideo cerddoriaeth, ac wedi addysgu dosbarth meistr goleuo gyda Beacons Cymru.
“Does dim llawer o ffyrdd y gallwch chi gael y cyfleoedd yna a chwrdd â phobl. Mae Beacons mor dda am gefnogi beth rydych chi’n ei wneud, fe wnaethon nhw lunio profiad personol i fi mewn gwirionedd.”
Meddai Spike Griffiths, Prif Weithredwr Beacons Cymru CIC: “Mae lleoliadau cerddoriaeth yn chwilio’n daer am ffyrdd o ymgysylltu â doniau newydd, oherwydd mae lleoliadau’n ffynnu gydag egni newydd.
Mae’n anodd arloesi os nad oes gennych chi gyfle i groesawu pobl wahanol o wahanol gefndiroedd, yn bwysicaf oll, o gefndiroedd incwm isel.”
All y sector cerddoriaeth llawr gwlad ddim fforddio talu cyflog teg i brentisiaid, ac mae’n anodd dod o hyd i hyfforddiant. Mae swyddi’n arafu, ac mae cyflogaeth gyffredinol ar draws y rhwydwaith lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad wedi cwympo o 30,865 i 24,742 o bobl, gostyngiad o bron i 20% yn ôl adroddiad 2025 y Music Venue Trust.
Dangosodd adroddiad diweddar gan y BBC fod pethau wir yn anoddach ar bobl yn eu hugeiniau, gyda chyfraddau cyflogaeth ieuenctid a chyfraddau perchnogaeth tai yn cwympo.
Erbyn diwedd 2025, roedd tua 56,800 o bobl ifanc 16-24 oed ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru, yn ôl yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Mae Beacons Cymru yn cynnig ffordd gydweithredol newydd o weithio rhwng tri lleoliad cerddoriaeth llawr gwlad, i fynd i’r afael â’r bwlch hyfforddiant-i-gyflogaeth.
Meddai Sam Dabb, Swyddog Gweithrediadau yn Le Public Space: “Mae ein cyfranogiad yn adlewyrchu ein hymrwymiad hirdymor i feithrin doniau ifanc a sicrhau cynaliadwyedd ein cymuned greadigol. Rydyn ni’n credu y bydd y bartneriaeth yma’n cryfhau rhwydweithiau rhwng lleoliadau, artistiaid a gweithwyr proffesiynol newydd, gan wella mynediad at yrfaoedd creadigol, a chreu cysylltiadau sy’n para ac yn mynd y tu hwnt i gyfnod y rhaglen.
“Drwy fuddsoddi yn ein pobl ifanc heddiw, rydyn ni’n buddsoddi yng ngwydnwch, amrywiaeth a llwyddiant ein sector diwylliannol lleol ar gyfer y dyfodol.”
Meddai Jordan McGuire, Cyfarwyddwr Bunkhouse CIC: “Mae ganddon ni gerddorion, ffotograffwyr, peirianwyr sain, hyrwyddwyr a phobl greadigol anhygoel yn y rhan yma o Gymru. Ond mae diffyg cyfleoedd strwythuredig i helpu pobl i gymryd eu cam cyntaf.
“Bydd y Bunkhouse yn darparu lleoliad, offer a chyfleusterau, ochr yn ochr â chyfleoedd mentora, lleoliadau gwaith ymarferol, gweithdai a phrofiad gwaith mewn digwyddiadau byw. Yn bwysicaf oll, byddwn ni’n cyflwyno’r cyfranogwyr i’r bobl sy’n gweithio yn y diwydiant bob dydd, gan roi hyder a chysylltiadau iddyn nhw barhau i wneud cynnydd ymhell ar ôl i’r rhaglen orffen.”
Gallwch wneud cais ar gyfer y Rhaglen Hyfforddiant Diwydiant Cerddoriaeth Llawr Gwlad yma – https://www.beacons.cymru/cy/traineeship
DIWEDD
Ar gyfer cyfweliadau gyda Spike neu gyn-gyfranogwyr rhaglenni Beacons Cymru, cysylltwch â hello@beacons.cymru.