Sut i ysgrifennu adran “Amdanaf fi” wych
Pan fyddwch yn creu proffil Abertawe Greadigol, un o’r elfennau pwysicaf yw’r adran “Amdanaf fi”. Dyma gyfle i chi gyflwyno eich hun, disgrifio’r hyn rydych yn ei wneud, rhannu eich arbenigedd a helpu eraill i ddeall yn gyflym sut gallent gydweithio neu gysylltu â chi.
Mae adran “Amdanaf fi” gref yn fwy na chrynodeb – adnodd allweddol ydyw a all eich helpu i ddenu sylw mewn cymuned greadigol sy’n tyfu.
Yn yr arweiniad hwn, rydym yn esbonio pam mae’r adran hon yn bwysig, yr hyn y dylid ei gynnwys o bosib, ac yn rhannu awgrymiadau defnyddiol i sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’r rhan hollbwysig hon o’ch proffil. P’un a ydych yn weithiwr llawrydd, yn berchennog busnes neu’n rhan o sefydliad creadigol mwy, bydd llunio adran “Amdanaf fi” o safon yn eich gwneud yn fwy tebygol o gysylltu â phobl o’r un meddylfryd ac o ddod o hyd i gyfleoedd newydd.
Mae adran “Amdanaf fi” wych yn gyfle i chi wneud cysylltiad personol a dangos beth sy’n unigryw am eich gwaith. Ceisiwch fod yn eglur, yn wresog ac yn hyderus.
Dechreuwch gyda chyflwyniad cyfeillgar. Dechreuwch gyda’ch enw, yr hyn rydych yn ei wneud a’ch lleoliad (os yw’n berthnasol). Byddwch yn anffurfiol – fel petaech yn cyflwyno eich hun mewn digwyddiad.
Rhannwch eich brwdfrydedd a’ch diben. Esboniwch yr hyn sy’n ysgogi eich gwaith ac sy’n destun cyffro i chi am eich maes creadigol. Mae hyn yn helpu pobl i gysylltu â’ch cymhelliant, sef “pam”.
Enghraifft: “Mae fy mrwdfrydedd yn ymwneud â chofnodi’r eithriadol, boed hynny drwy fanylion cymhleth byd natur neu ddilysrwydd stori am fusnes.”
Tynnwch sylw at eich sgiliau a’ch ymagwedd. Trafodwch eich arbenigedd a sut mae eich ymagwedd yn wahanol. Crybwyllwch eich prif sgiliau neu gyfryngau (e.e. dylunio, fideo, ysgrifennu). Disgrifiwch eich proses neu eich ymagwedd greadigol mewn brawddeg neu ddwy. Byddwch yn hyderus, yn wresog ac yn ddiffuant.
Dangoswch gyda phwy rydych yn gweithio a beth rydych yn ei gynnig. Esboniwch pwy sy’n elwa o’ch gwaith a pha ganlyniadau rydych yn eu helpu i’w cyflawni. Disgrifiwch eich cynulleidfa a/neu eich marchnad (e.e. busnesau bach, elusennau, gwyliau). Canolbwyntiwch ar sut rydych yn ychwanegu gwerth neu’n datrys problemau.
Enghraifft: “Ar gyfer busnesau, rwy’n creu delweddau a fideos gafaelgar sy’n dangos eu gwaith yn ogystal â hyrwyddo eu gwerthoedd a’u personoliaeth.”
Mae modd chwilio am bob allweddair rydych yn ei gynnwys yn eich proffil – felly, bydd defnyddio termau mwy disgrifiadol yn eich gwneud yn fwy tebygol o gael eich darganfod gan y bobl gywir.
Iawn:
“Fy enw yw Sophie. Rwy’n rheolwr cyfryngau cymdeithasol ac yn grëwr cynnwys llawrydd o Abertawe. Rwy’n gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau, o letygarwch i elusennau a mwy. Rwy’n dwlu ar adrodd straeon mewn modd creadigol a gweithio ar ymgyrchoedd sy’n gwneud gwahaniaeth.”
Llawer gwell:
“Fy enw yw Sophie – rwy’n rheolwr cyfryngau cymdeithasol ac yn grëwr cynnwys llawrydd o Abertawe ac rwy’n frwd dros ddod â brandiau’n fyw drwy adrodd straeon mewn modd creadigol. Rwy’n cydweithio ag amrywiaeth eang o gleientiaid, o fusnesau lletygarwch i elusennau, gan eu helpu i greu ymgyrchoedd dylanwadol sy’n ysgogi ymgysylltiad ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Rwy’n rhoi pwyslais mawr ar gynllunio cynnwys mewn modd strategol ac yn creu strategaethau cyfryngau cymdeithasol pwrpasol sy’n cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd eich brand. P’un a ydych am gynyddu eich presenoldeb ar-lein, hyrwyddo ymwybyddiaeth o’ch brand neu gysylltu â’ch cynulleidfa, rwyf yma i’ch helpu i adrodd eich stori mewn ffordd sy’n atseinio.”
Dyma pam mae’r ail fersiwn yn gryfach ac yn fwy effeithiol:
- Argraff gyntaf gryfach: Mae’n dechrau gyda chyflwyniad eglur a difyr sy’n rhoi gwybod i bobl ar unwaith pwy ydych chi a beth rydych yn ei wneud .
- Allweddeiriau gwell o safbwynt chwilio: Mae cynnwys termau perthnasol penodol fel strategaeth cyfryngau cymdeithasol, ymwybyddiaeth o frand, cynlluniau cynnwys ac ymgysylltiad, gan ei gwneud yn haws i eraill ddod o hyd i chi drwy chwilio.
- Cynnig gwerth eglur: Mae’n esbonio sut rydych yn helpu cleientiaid a pha fath o ganlyniadau y gallant eu disgwyl (e.e. cynyddu presenoldeb, hyrwyddo ymwybyddiaeth).
- Strwythur gwell: Mae’n defnyddio paragraffau byr i’w gwneud yn haws ei sganio a’i darllen ar-lein.
- Amlygu hyblygrwydd: Mae’n crybwyll gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid (lletygarwch, elusennau, etc), sy’n amlygu eich profiad a’ch gallu i ymaddasu.
Eich adran “Amdanaf fi” yw un o’r ffyrdd gorau o adrodd eich stori a denu’r cyfleoedd cywir. Cymerwch ychydig o amser i’w llunio’n ystyriol, a chofiwch roi cyfle i’ch personoliaeth ddisgleirio.