Rhaglen haf Abertawe Greadigol – GWEITHDY CODIO (9-15 oed)
Mae Abertawe’n cynnwys llawer o bobl greadigol dalentog iawn ac mae llawer ohonynt yn llwyddiannus iawn wrth weithio yn y diwydiannau creadigol.
Yr haf hwn rydym yn cynnig y gweithgareddau canlynol hyn AM DDIM i blant 9-15 oed i wneud ein rhan wrth ysgogi chwilfrydedd a meithrin doniau’r dyfodol.
Beth: Gweithdy codio a dylunio gemau rhyngweithiol gyda Mark Keleher
Ble: Prifysgol Abertawe/Technocamps
Pryd: Dydd Mawrth 11 Awst 2026
Amser: 12.30am-3.30pm
Ydych chi erioed wedi bod eisiau creu gêm fel Super Mario neu Sonic? Yn y gweithdy gwych hwn, byddwch yn camu i le dylunydd gemau go iawn ac yn codio eich gêm neidio a rhedeg 2D retro eich hun o’r newydd gan ddefnyddio MakeCode Arcade!
Cewch ddylunio eich prif gymeriad eich hun, adeiladu byd epig llawn platfformau cyfrinachol, a rhaglennu mecanweithiau anhygoel fel disgyrchiant, neidio, ac animeiddiadau unigryw. Gallwch ychwanegu pethau y gellir eu casglu, effeithiau sain ac amodau ennill/colli i herio eich ffrindiau a gweld pwy all guro’r lefel a grëwyd gennych chi!
Gweithdy codio/dylunio gemau gyda Mark Keleher (Technocamps)
Graddiodd Mark o Brifysgol Southampton gyda BSc 2:1 mewn Daearyddiaeth. Aeth ymlaen i ennill TAR mewn addysg gynradd o Brifysgol Abertawe ac mae wedi dysgu ers y 27 mlynedd diwethaf.
Mae’n mwynhau dylunio a chreu pethau o ddeunyddiau sgrap, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn archwilio penrhyn Gŵyr ac ymchwilio i wybodaeth am ei orffennol cyffrous. Mae wedi treulio’r 3 blynedd diwethaf yn gweithio gyda Technocamps, yn darparu gweithdai ar bopeth digidol, ac yn hyfforddi athrawon ar draws de Cymru i wneud yr un peth.