Skip to content
Rhaglen haf Abertawe Greadigol – GWEITHDY CELF (9-12oed)
Elysium Gallery

Rhaglen haf Abertawe Greadigol – GWEITHDY CELF (9-12oed)

Awst 6
11:00 - 13:00
Author Avatar
Cyhoeddwyd gan::
Creative Swansea

Mae Abertawe’n cynnwys llawer o bobl greadigol dalentog iawn ac mae llawer ohonynt yn llwyddiannus iawn wrth weithio yn y diwydiannau creadigol.  

Yr haf hwn rydym yn cynnig y gweithgareddau canlynol hyn AM DDIM i blant 9-15 oed i wneud ein rhan wrth ysgogi chwilfrydedd a meithrin doniau’r dyfodol.  

 GWEITHDY CELF  

(9-12 oed) 

Beth: Sesiwn arllwys paent greadigol gyda Fran Williams 

Ble: Oriel Elysium, 12-24 Belle Vue Way, Abertawe, SA1 5BY

Pryd: Dydd Iau 6 Awst 2026 

Amser: 11-1pm 

Mae Fran Williams yn arlunydd olew sy’n byw yn Abertawe a chanddi BA mewn Darlunio. Mae ei gwaith yn archwilio iaith weledol gwneud marciau drwy ffurfiau etheraidd a thirweddau dychmygol. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang ledled y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd, ym Mryste, yn Llundain ac yng Nghaeredin ac yn rhyngwladol, gydag arddangosfeydd grŵp diweddar yn Los Angeles. 

Mae hi’n cynnal gweithdai paentio cyfryngau cymysg yn rheolaidd yn ei stiwdio yn Abertawe. 

Digwyddiadau eraill
Creative Swansea