Skip to content
Christmas Craft Workshop – Airdried Clay Decorations (Quiet Family Workshop)
Swansea Museum

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Gweithdy Crefftau'r Nadolig - Addurn Clai sy’n Sychu yn yr Aer

Rhagfyr 12
10:00 - 12:00
Visual Arts
Author Avatar
Cyhoeddwyd gan::
cs_tedwdnwrr39z

Gweithdy Tawel i Deuluoedd: Gweithdy Crefftau’r Nadolig – Addurn Clai sy’n Sychu yn yr Aer

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.

“Beth byddet ti’n ei wneud pe byddet ti’n gweld hipopotamws yn cerdded i lawr Terrace Road?”

Gan ddefnyddio gwaith Dylan Thomas a chasgliad Astudiaethau Natur unigryw Amgueddfa Abertawe fel ysbrydoliaeth, byddwn yn creu addurniadau clai Nadolig ar thema anifeiliaid ar gyfer eich cartref. Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i fynd i hwyl yr ŵyl wrth gysylltu â natur a dysgu am hanes a diwylliant Abertawe drwy weithgaredd ymlaciol.

Defnyddir deunyddiau wedi’u hailgylchu, eu hailbwrpasu ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy yn ein holl weithdai. Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Hwyl i deuluoedd â phlant o bob oedran.

Gall uchafswm o 28 person ddod i’n gweithdy.

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru rhwng Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe, sy’n archwilio hanes naturiol trwy ysgrifennu Dylan Thomas.

Am ddim

Digwyddiadau eraill
Jo Furber