Digwyddiad rhwydweithio Abertawe Greadigol
Rydym yn gyffrous i’ch gwahodd i ddigwyddiad arbennig Abertawe Greadigol lle bydd cyfle i chi rwydweithio, cymdeithasu a dod o hyd i gydweithredwyr.
Ble: Ardal Seddau’r Cylch/Stwidio’r Depot yn Theatr y Grand Abertawe
Pryd: Nos Mercher 27 Mai.
Amser: 6pm-8pm
Bydd gwefan Abertawe Greadigol hefyd yn mynd yn fyw, felly os byddwch yn dod o hyd i gydweithredwr yn ein digwyddiad heddiw, gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd iddo ar y wefan yfory.
Ar y wefan newydd byddwn yn gallu gwneud y canlynol:
– Cysylltu â chyfoedion ar draws y sector
– Rhoi sylw i’ch gwaith, eich talent a’ch prosiectau
– Rhannu digwyddiadau, cyfleoedd, blogiau a straeon
– Cryfhau eiriolaeth dros y diwydiannau creadigol yn Abertawe
Rydych wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio’r rhwydwaith hwn – drwy sesiynau bord gron, digwyddiadau, sgyrsiau a chefnogaeth barhaus – a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi’n ymuno â ni wrth i ni ddathlu’r garreg filltir hon gyda’n gilydd.
Mae tocynnau AM DDIM ond rhaid archebu lle.